Daeth eglwys y Tabernacl allan o eglwys Hope, Drenewydd (Newton) yn 1916. Y Parchg David Morris oedd y gweinidog.
Eglwys Gymraeg oedd Hope, ond teimlai rhai y carent gael mwy o Saesneg. Yn Chwefror 1916 penderfynwyd dechrau achos Cymraeg newydd yn nhre Porthcawl, a gadael eglwys Hope i ddatblygu fel achos Saesneg.
Bu’r eglwys yn cwrdd yn y YMCA cyn symud i’r Celtic Café yn John Street. Rhif yr aelodau ar y dechrau oedd 39, ond erbyn 1919 roedd wedi cynyddu i 70.
Yn 1919 prynwyd tir yn Fenton Place am y swm o £350.
Ar y tir roedd hen neuadd ddefnyddiwyd fel Army Drill Hall adeg y Rhyfel Cyntaf. Dyma gapel cyntaf y Tabernacl, wedyn ei festri. Agorwyd y capel ar yr 20fed o Fawrth 1920 dan weinidogaeth y Parchg David Morris
Yn 1930, gyda’r aelodau erbyn hyn yn 130, penderfynwyd codi capel newydd. Cost adeiladu’r capel newydd yn £4300.
Ymhen chwe mis roedd yr adeilad wedi ei orffen ac agoryd y Tabernacl ar y 14eg o Orffennaf 1931. Gwasanaethwyd yn y cyfarfod agoriadol gan y Dr Elfed Lewis, Y Parchg J J Williams, Treforys a’r Parchg Samuel Williams, Glandŵr. Parchg David Morris draddododd y bregeth gyntaf.
Erbyn hyn mae’r adeilad wedi ei gofrestru gan Cadw fel adeilad cofrestredig Gradd 2.
Dan weinidogaeth ac arweiniad y Parchg Rosan Saunders aethpwyd ati i ddymchwel yr hen festri a chodi ein neuadd newydd. Agorwyd y neuadd yn 2007
Gweinidogion yr Eglwys
- Parchg David Morris – 1916 – 1932
- Parchg Evan James – 1935 – 1958
- Parchg Walford Llewellyn – 1959 – 1963
- Parchg W Rhys Nicholas – 1965 – 1983
- Parchg Alwyn Lloyd – 1985 – 1994
- Parchg Meirion Sewell – 1995 – 2002
- Parchg Rosan Saunders – 2003 – 2017
- Parchg Dylan Rhys Parry 2021 –