Gofalaeth Glannau Ogwr
Capeli Cymraeg Pen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl
Annibynwyr Cymraeg


Tabernacl Pen-y-bont ar Ogwr
Oedfa’r Sul 9.45 y.b.

Tabernacl Porthcawl
Oedfa’r Sul 11.15 y.b.
Croeso cynnes i bawb, yn ddysgwyr ac ymwelwyr

Cystadleuaeth Cerdyn Post i’r Cread

Mawl
Cyfle i gwrdd yn anffurfiol i addoli, Hydref 1, 6yh yn Tabernacl, Pen-y-bont. Croeso i bawb – bydd lluniaeth ysgafn i ddilyn.

Tirwedd Ysbrydol
Astudiaeth beiblaidd pob bore Mawrth am 10yb ym Mhorthcawl. Bydd y cyntaf yn cychwyn Medi 12fed. Am fwy o fanylion, cysylltwch gyda Dylan.

Bore Coffi’r Dysgwyr
Dydd Sadwrn cyntaf pob mis, 10:00yb – 12:00yp yn Neuadd y Tabernacl Porthcawl. Croeso cynnes i bawb.

Stiwdio Ogwr
Prosiect ddigidol cenhadol newydd mae Dylan yn gweithio arno ar hyn bryd. Byddem maes o law yn gallu creu podlediadau a recordio o’r safon uchaf bosib mewn stiwdio yn Tabernacl Pen-y-bont. A’r gobaith yw bydd ieuenctid, aelodau, dysgwyr a’r gymuned yn gallu defnyddio’r offer i greu rhaglenni amrywiol at ddant pawb. Mwy o wybodaeth yn fuan!
Ffurfiwyd Gofalaeth Glannau Ogwr pan unwyd Capel y Tabernacl, Porthcawl a Capel y Tabernacl, Pen-y-bont yn 2020 i drafod estyn gwahoddiad i alw gweinidog i’w plith.
Mae’r ofalaeth yn credu mai dod a phobl i adnabod Iesu Grist ac yn aelodau o’i deulu, i feithrin a dyfnhau eu ffydd, a’u paratoi ar gyfer eu gwasanaeth yn yr eglwys a’u cenhadaeth yn y byd er mwyn gogoneddu enw Duw.
