Dod o hyd i ni

Tabernacl Pen-y-bont

Côd post: CF31 1LH

Heol y Dderwen/Derwen Road, Pen-y-bont ar Ogwr

Mewn car

Dilynwch arwyddion am yr orsaf drên Pen-y-bont, a fydd yn eich arwain ar hyd Derwen Road/Heol y Dderwen. Cadwch ar y ffordd a’r capel ar y dde.

Mae ‘na maes parcio drws nesaf i’r capel.

Mewn bws

Dewch o’r orsaf bysiau Pen-y-Bont. Ewch ar Heol y Chwarel/Quarella  Road, trowch i’r chwith ar Stryd y Farchnad/Market Street, wedyn ymunwch â Heol y Dderwen/Derwen Road. Trowch i’r dde. Cadwch ar y ffordd a’r capel ar y dde.

Ar drên

O’r orsaf drên Pen-y-bont ar Ogwr cerddwch am ganol y dref, lawr Heol y Llys/Court Road, wedyn trowch i’r dde. Mae’r capel ar y chwith.

Tabernacl Porthcawl

Côd post: CF36 3DW

18 Fenton Place, Porthcawl

Mewn car

O Gyffordd 37 y M4 dilynwch yr A4229 am Borthcawl. Gadewch y A4229 ar y gylchfan tua milltir ar ôl mynd heibio clwb golff y Grove ar eich llaw dde.Trowch i’r dde yn y cylchfan i Fulmar Road. Tua 300 llath ymhellach ymlaen trowch i’r chwith i South Road. Mae Fenton Place ar y dde dipyn dros hanner milltir i lawr South Road, a’r Capel tua canllath o’r cyffordd. Cyfeiriad y Capel yw- Capel y Tabernacl, 18 Fenton Place, Porthcawl, CF36 3DW.

Mae nifer cyfyngedig o lefydd parcio ar gael ger y capel yn Fenton Place, neu lan South Road.

Mewn bws

Mae gwasanaethau bws Porthcawl yn stopio yn John Street. Mae’r capel yn Fenton Place sydd rownd y gornel o’r dafarn y Seahorse, 5 munud ar droed.