Gwybodaeth i ddysgwyr

Y Gymraeg a’n Ffydd Gristnogol

Cynheilir gwasanaethau Tabernacl Pen-y-bont/Porthcawl yn Gymraeg, gan gynnwys 4 emyn, pregeth a gweddiau. Nodwedd ddiddorol ein Gofalaeth, fyddwch chi’n clywed amrywiaeth o acennau cymraeg yn y capeli: daw ein haelodau o bob rhan o Gymru a thu hwnt. Peidiwch â phoeni os dych chi ddim yn deall popeth yn ystod y gwasanaeth! Paratoir crynodeb saesneg o’r bregeth pob tro bydd y gweinidog yn gwasanaethu, a hefyd bydd pawb yn hapus i’ch helpu gyda geirfa os bydd angen. Hefyd mae sawl adnodd defnyddiol ar-lein hefyd.

Emynau

Dy ni’n defnyddio’r llyfr emynau ‘Caneuon Ffydd’ sy’n cynnwys emynau traddodiadol a modern. Mae yna lawer o wybodaeth am emynau Cymraeg ar y wefan Cristnogaeth Cymru, gan gynnwys dolen i’r wefan Angelfire Richard Gillion gyda chyfiethiadau i’r Saesneg.

Beiblau

Cyhoeddwyd y Beibl Newydd Cymraeg yn 1988, a Beibl.net (mewn Cymraeg llafar syml) yn 2013. Mae’r ddau fersiwn yn cael eu defnyddio yn ein gwasanaethau, ac maen nhw hefyd ar gael ar-lein.

Dysgu’r Iaith

Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg yn trefnu cyrsiau Cymraeg ar-lein ac wyneb yn wyneb yn ein hardal. Hefyd, mae’n bosib i ddysgu trwy ddefnyddio’r apiau Say Something in Welsh neu Duolingo.

Darllen a gwrando’r Gymraeg