Eisiau ymaelodi gyda ni?

Mae llawer iawn o fanteision dros fod yn aelod mewn eglwys. Mae’n dweud yn y Beibl lle bynnag mae dau neu dri wedi ymgynull yn enw Iesu y mae Ef yno (Mathew 18:20).

Ond o bosib un o’r bendithion mwyaf yw pan mae unigolyn yn teimlo ei bod yn perthyn. Drwy ymaelodi yn y Tabernacl byddwch yn gwneud yr un peth mae unigolion wedi ei wneud ers canrif ym Mhorthcawl i brofi bendith y cymundeb a’n gilydd drwy’r Gymraeg.

Os am ymuno gyda ni, cysylltwch gyda ni, drwy ofyn i un o’r swyddogion, neu ein gweinidog Dylan.