Priodasau

Mae priodi yn un o gamau pwysicaf yn eich bywydau. Bydd emynau a gweddïau yn rhan annatod o briodas Gristnogol. Bydd yr eglwys yno i’ch cefnogi yn eich addewidion i’ch gilydd, ym mhresenoldeb Duw cariadus.

Yn 2015 fe bleidleisiodd Tabernacl Pen-y-bont o blaid Priodasau un-rhyw mewn ymateb i’r llywodraeth yn cyfreithloni Priodasau un-rhyw. Mae’r eglwys yn cydnabod fod pob unigolyn yn rhan o deulu Duw.

Os hoffech drafod Priodas, cysylltwch gyda’r gweinidog.