Bedydd

Mae bedydd yn nodi cam cyntaf ein taith ffydd fel un o ddilynwyr Iesu Grist. I rai pobl mae hyn yn digwydd fel baban neu blentyn, i eraill gall fod fel oedolyn – a dyw hi byth yn rhy hwyr.

Rydym yn cynnig gwasanaeth arbennig ar gyfer bedyddio lle bydd y plentyn/person fydd yn cael ei fedyddio yn cael ei groesawu i deulu’r eglwys a’r ffydd Gristnogol. Byddem un ai yn rhoi dŵr ar dalcen y baban/person neu fel y mae’n rhan o draddodiad yr Annibynwyr gallem fedyddio oedolion/ieuenctid drwy fedydd trochiad.

Fel arfer fydd sacrament y bedydd yn digwydd yn ystod ein hoedfa arferol.

Cysylltwch gyda’r gweinidog am fwy o wybodaeth.