Hanes yr achos

Dechreuadau Anghydffurfiaeth yn yr ardal

Yn sgil gorfod gadael ei eglwys yn Llangynwyd, oherwydd Deddf Unffurfiaeth 1662, sefydlodd Samuel Jones Academi yn ei gartref, Brynllywarch, lle bu’n hyfforddi dynion ifainc ar gyfer y weinidogaeth.

Bu farw yn 1697 ond parhawyd ei waith gan un o’r dynion ifainc hyn, y Parchg Rees Price, Tynton, Llangeinor a sefydlodd dau dŷ cwrdd i Anghydffurfwyr , un ym Mhen-y-bont a’r llall yn y Betws. Yn ystod y blynyddoedd nesaf cododd y gynulleidfa ym Mhen-y-bont Dŷ Cwrdd ar ddarn o dir ar waelod Rhiw Castell Newydd gan gwrdd yno o flynyddoedd cynnar y ddeunawfed ganrif tan ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Tabernacl, Stryd yr Ysgawen 1810 a Tabernacl, Stryd Adare 1850

Cododd anghydfod yn 1806 a gadawodd carfan o’r aelodau y Tŷ Cwrdd gan addoli mewn ysgubor ar Heol y Gorllewin nes codi capel ar Stryd yr Ysgawen a’i agor yn 1810 dan yr enw Tabernacl. Unwyd â’r gynulleidfa yn Betharan Brynmenyn i wahodd y Parchg William Jones o’r Bala yn weinidog (1811-1847). Dirywiodd cyflwr y capel hwn ac adeiladwyd capel newydd yn Stryd Adare a’i agor yn 1851 yng nghyfnod gweinidogaeth y Parchg John David Williams.

Agorodd y Parchg J.Bowen Jones (1859-1874) Ysgol Ramadeg lwyddiannus iawn yn yr Hen Gapel gan hyfforddi yn agos i dri chant o ddynion ifainc, nifer ohonyn nhw â’u bryd ar fynd i’r weinidogaeth. Yn 1866 codwyd festri tu cefn i’r Tabernacl yn Stryd Adare.

Yng nghyfnod gweinidogaeth y Parchg Herbert Rogers (1910-1922) llwyddwyd i addasu a chymhwyso’r hen gapel yn Stryd yr Ysgawen a’i droi yn Neuadd arbennig o ddefnyddiol gydag Ysgoldy yn y llofft uwchben. Dros y blynyddoedd bu’r Neuadd yn adnodd o bwys i’r gymuned yn ogystal â’r Tabernacl.

Yng nghyfnod gweinidogaeth y Parchg John Howell (1924 – 1942) adeiladwyd organ bîb a phrynwyd prydles yr adeiladau. Dan olygyddiaeth y Parchg J. Cyril Bowen (1944- 1978) cyhoeddwyd Hanes y Tabernacl 1962-1950 pan ddathlwyd canmlwyddiant codi’r adeilad yn Stryd Adare. Dilynwyd y Parchg Cyril Bowen yn y weinidogaeth gan y Parchg Ronald Williams(1976-1979) ac yn ddiweddarach y Parchg Ifan Wynn Evans (1981-1989).

Tabernacl, Heol y Dderwen 1989

Yn 1985, wedi cryn drafod, penderfynodd y gynulleidfa werthu’r capel a’r festri tu cefn i ddatblygwyr a chodi capel newydd yn Heol y Dderwen gan gysylltu’r adeilad newydd â’r Neuadd yn Stryd yr Ysgawen. Cynhaliwyd yr oedfa olaf yn y Tabernacl, Stryd Adare ar Fedi’r 21ain 1986, trowyd y Neuadd yn addoldy dros dro ac agorwyd y capel newydd yn Heol y Dderwen ar Sadwrn Mai’r 6ed 1989.

Yn y cyfnod diweddaraf yn hanes y Tabernacl dyma’r rhai a fu’n weinidogion i’r Arglwydd yma – y Parchg Robin Wyn Samuel (1991- 2003 ), y Parchg Hywel Wyn Richards (2004 – 2014) a’r Parchg Dyfrig Rees ( 2014-2018).

Yn 2011 cyhoeddwyd Hanes y Tabernacl 1950 – 2010 i nodi dauganmlwyddiant y capel ar y safle yng nghanol y dref.

Yn 2020 penderfynwyd uno gyda’r Tabernacl Porthcawl i ffurfio Gofalaeth Glannau Ogwr ac yn 2021 gwahoddwyd y Parchg Dylan Rhys Parry i fod yn weinidog ar yr Ofalaeth newydd. Dechreuodd ar ei waith ym Mehefin 2021 ond, oherwydd cyfyngiadau’r Pandemig, gohiriwyd y Cyrddau Sefydlu swyddogol tan Fehefin 9fed 2022.