Ffurfiwyd Gofalaeth Glannau Ogwr pan unwyd Capel y Tabernacl, Porthcawl a Capel y Tabernacl, Pen-y-bont yn 2020 i drafod estyn gwahoddiad i alw gweinidog i’w plith.
Mae’r ofalaeth yn credu mai dod a phobl i adnabod Iesu Grist ac yn aelodau o’i deulu, i feithrin a dyfnhau eu ffydd, a’u paratoi ar gyfer eu gwasanaeth yn yr eglwys a’u cenhadaeth yn y byd er mwyn gogoneddu enw Duw.